Bywgraffiad
Lucy Thomas
Mam Glo
Daeth y gweithdy Mapping Merthyr Through Women’s Histories â staff o wasanaethau’r Llyfrgelloedd a’r Amgueddfa, ynghyd â phartneriaid o sectorau eraill, at ei gilydd i ddarganfod, anrhydeddu ac amlygu straeon y menywod a siapiodd Ferthyr. Wedi’i lywio gan fewnwelediadau o’r sesiynau galw heibio Heritage and Herstories ar draws Cwm Merthyr, dewisodd y cyfranogwyr bob un stori am fenyw oedd yn haeddu cydnabyddiaeth, gan greu map ar y cyd o orffennol Merthyr drwy amrywiaeth o safbwyntiau benywaidd. Dim ond y dechrau yw’r prosiect hwn — gyda’r gobaith o barhau â’r gweithdai hyn a chydweithio â mwy o gymunedau ar draws y cwm, gan gyfoethogi ac ehangu naratif hanes menywod lleol ymhellach.
Ysgrifennwyd gan Charlotte Barry, Swyddog Addysg a Dehongli yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa. Ganwyd Lucy Thomas yn Llansamlet, De Cymru, ar 11 Mawrth 1781 a hi oedd un o'r menywod busnes mwyaf nodedig ym Merthyr Tudful yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar ôl marwolaeth ei gŵr, Robert Thomas, ym 1833, cymerodd yr awenau a rhedeg busnes glo y teulu.
Sefydlodd Robert Thomas sylfeini llwyddiant y teulu wedi iddo ddarganfod gwythïen lo gyfoethog yng Nglofa Waun Wyllt ym Merthyr Tudful. Ar adeg ei farwolaeth, roedd yr ystâd werth tua £1,000 o bunnoedd. Er bod busnesau ac ystadau fel arfer yn cael eu trosglwyddo i'r perthynas gwrywaidd addas agosaf a byddai hyn fel arfer wedi bod yn un o'r 6 mab, ystyriwyd ei bod yn dderbyniol ar yr achlysur hwn i Lucy, ei weddw, gymryd rheolaeth o'r fenter.
Fel llawer o fenywod o’i chyfnod, ni dderbyniodd Lucy ddigon o addysg i ddarllen ac ysgrifennu'n rhugl. Yn ddiddorol, mae nifer o ddogfennau archifol sydd wedi goroesi ac sydd yn gysylltiedig â'r busnes wedi'u llofnodi ag "X", sy'n awgrymu nad oedd hi'n gallu llofnodi ei henw. Er gwaethaf hyn, profodd i fod yn fenyw fusnes alluog iawn. O dan arweinyddiaeth Lucy, ffynnodd y busnes. Erbyn ei marwolaeth ym 1847, roedd gwerth yr ystâd wedi cynyddu'n ddramatig o £1,000 i £11,000, gan ddangos llwyddiant ei rheolaeth a'i chrebwyll masnachol.
Gellid dadlau bod penodiad Lucy Thomas yn gam blaengar yn y cyfnod ac wedi paratoi'r ffordd i fenywod eraill ymgymryd â chyfrifoldebau diwydiannol mawr, gan gynnwys yr Arglwyddes Charlotte Guest, a gymerodd reolaeth o Waith Haearn Dowlais ym 1852.
Heddiw, mae Lucy a Robert Thomas yn cael eu coffáu drwy Ffynnon Goffa Robert a Lucy Thomas ym Merthyr Tudful, tra bod Lucy ei hun wedi'i chladdu yng Nghefn Coed.
