Delwedd ar y ffordd

Bywgraffiad

Marion Jones

Cydweithiwr Undeb Masnach yn Hoovers a Ymgyrchydd Hawliau Menywod

Daeth y gweithdy Mapping Merthyr Through Women’s Histories â staff o wasanaethau’r Llyfrgelloedd a’r Amgueddfa, ynghyd â phartneriaid o sectorau eraill, at ei gilydd i ddarganfod, anrhydeddu ac amlygu straeon y menywod a siapiodd Ferthyr. Wedi’i lywio gan fewnwelediadau o’r sesiynau galw heibio Heritage and Herstories ar draws Cwm Merthyr, dewisodd y cyfranogwyr bob un stori am fenyw oedd yn haeddu cydnabyddiaeth, gan greu map ar y cyd o orffennol Merthyr drwy amrywiaeth o safbwyntiau benywaidd. Dim ond y dechrau yw’r prosiect hwn — gyda’r gobaith o barhau â’r gweithdai hyn a chydweithio â mwy o gymunedau ar draws y cwm, gan gyfoethogi ac ehangu naratif hanes menywod lleol ymhellach.

Chwaraeodd Marion Jones rôl allweddol yn y cynnydd a wnaed i hawliau menywod ym Merthyr Tudful. Gweithiodd mewn sawl ffatri leol cyn ymuno â ffatri Hoover ym Mhentrebach ym 1963, lle daeth yn swyddog gyda’r undeb llafur. Hoover oedd un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, yn darparu swyddi i ryw 5,000 o ddynion a menywod yn ystod uchafbwynt ei flynyddoedd cynhyrchu.

Yn gynnar yn y 1970au, wedi i’r Ddeddf Cyflog Cyfartal (1970) ddod i rym, cynorthwyodd Marion i arwain ymgyrch yn Hoover i’r menywod dderbyn yr un cyflog â’r dynion. Wedi ei hysbrydoli gan streic peirianwyr gwnïo Ford yn Dagenham ym 1968, gofynnodd Marion a menywod eraill i’r rheolwyr am gyflog cyfartal. Cytunodd y cwmni mewn egwyddor, ond roedd rhai dynion yn y gwaith a rhai o gynrychiolwyr yr undeb yn gwrthwynebu'r ymgyrch yn gryf, gan ddadlau nad oedd menywod yn gwneud yr un gwaith. Arweiniodd hwn at streic answyddogol gan y dynion yn y gweithle. Yn y diwedd bu cais y menywod yn llwyddiannus a chyflwynwyd cyflog cyfartal. Er yr oedd gelyniaeth tuag at y menywod yn y gwaith yn dal i fod, parhaodd Marion yn ymroddedig a chynorthwyodd i wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau o fenywod y dyfodol.

Dewisais Marion Jones oherwydd bod ei stori’n taflu golau ar ran o hanes Merthyr Tudful sy’n aml yn mynd ar goll. Mae hanes diwydiannol Merthyr yn canolbwyntio’n gryf ar ddynion diwydiannol, ond dengys profiadau Marion bod menywod wedi bod yn rhan greiddiol o ffurfio tirlun cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y dref. Roedd angen cryn dipyn o ddewrder, gwytnwch ac arweinyddiaeth arni i frwydro am gydraddoldeb o fewn y gweithle. Mae’r stori hon yn bwysig oherwydd cawn ein hatgoffa bod cynnydd yn aml yn digwydd o ganlyniad i bobl gyffredin yn mynnu tegwch a chydraddoldeb yn eu cymunedau a’u gweithle.