Bywgraffiad
Merryl Wyn Davies
Ysgrifennydd a Meddwlwr Arloesol
Daeth y gweithdy Mapping Merthyr Through Women’s Histories â staff o wasanaethau’r Llyfrgelloedd a’r Amgueddfa, ynghyd â phartneriaid o sectorau eraill, at ei gilydd i ddarganfod, anrhydeddu ac amlygu straeon y menywod a siapiodd Ferthyr. Wedi’i lywio gan fewnwelediadau o’r sesiynau galw heibio Heritage and Herstories ar draws Cwm Merthyr, dewisodd y cyfranogwyr bob un stori am fenyw oedd yn haeddu cydnabyddiaeth, gan greu map ar y cyd o orffennol Merthyr drwy amrywiaeth o safbwyntiau benywaidd. Dim ond y dechrau yw’r prosiect hwn — gyda’r gobaith o barhau â’r gweithdai hyn a chydweithio â mwy o gymunedau ar draws y cwm, gan gyfoethogi ac ehangu naratif hanes menywod lleol ymhellach.
Wedi'i ysgrifennu gan Hanesydd Lleol, Awdur, ac Aelod o Gymdeithas Hanesyddol Merthyr a'r Cylch, Christine Trevett:
Awdur a meddylwraig arloesol oedd Merryl Wyn Davies a ddylanwadodd ar fywyd deallusol Moslemaidd ers dros bedair degawd. Cafodd ei geni a’i magu ym Merthyr Tudful ac mae hi’n rhoi clod i’w magwraeth dosbarth gweithiol mewn cymuned pwll glo a’i threftadaeth Brotestannaidd Gymreig am feithrin ynddi ymroddiad i gyfiawnder cymdeithasol. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, ac yn gynnar yn ei bywyd datblygodd ddiddordeb mewn diwylliant, crefydd ac anthropoleg, gan symud ymlaen i astudio anthropoleg gymdeithasol ym Mhryfysol Coleg Llundain (UCL). Cychwynnodd ei gyrfa mewn newyddiaduriaeth leol a radio’r BBC cyn iddi symud i waith teledu yn y 1970au gan gynhyrchu rhaglennu mawr ar grefydd a moeseg megis Everyman a Heart of the Matter. Cyfarfu a meddylwyr Moslemaidd byd-eang yn y cyfnod cyn iddi gyfnewid i Islam ym 1981, rhywbeth y disgrifiodd fel sylweddoliad sydyn a ffurfiwyd gan ei gwaith a’r darllen eang roedd hi wedi bod yn ei wneud.
Daeth Davies yn ffigur blaenllaw mewn anthropoleg Moslemaidd a chyhoeddodd y llyfr dylanwadol Knowing One Another (1988) a bu’n gydawdur nifer o lyfrau gyda’r ysgolhaig Ziauddin Sardar. Roedd ei newyddiaduriaeth a’u sylwebaeth yn ymestyn o faterion byd eang, ffilm a diwylliant hyd faterion rhyng-ffydd.
Treuliodd ddegawd ym Malaysia yn gynhyrchydd teledu ac yn hwyrach yn ysgrifennu areithiau ac yn swyddog i’r wasg i’r dyn fyddai’n dod yn brif weinidog, Anwar Ibrahim. Wedi trybestod gwleidyddol yno, ail-gartrefodd yn Singapore ac Indonesia cyn dychwelyd yn aml i Gymru, cadwodd cartref ei theulu yn The Walk a’i hunaniaeth fel ‘merch o Ferthyr’. Yn y Deyrnas Unedig bu’n swyddog cyfryngau i Gyngor Moslemaidd Prydain a daeth yn gyfarwyddwr sefydlol i’r Sefydliad Moslemaidd a ail-lansiwyd yn 2010. Mae Merryl yn haeddu cael ei chofio am iddi hyrwyddo deialog rhwng diwylliannau a meddylfryd feirniadol o fewn ac ynghylch Islam, roedd yn falch o’i hunaniaethau niferus yn Foslem, yn Gymraes ac yn fenyw.
