Stori
Stori Mary Rees, alias Blackstone, a Elizabeth Morgan, 1800-1881 am brotest
Wedi’i ysgrifennu gan Marion Löffler, Pennaeth Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, un o brif ysgolheigion hanes diwylliannol a gwleidyddol Cymru, ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Cyfarthfa: Daeth y gweithdy Mapping Merthyr Through Women’s Histories â staff o wasanaethau’r Llyfrgelloedd a’r Amgueddfa, ynghyd â phartneriaid o sectorau eraill, at ei gilydd i ddarganfod, anrhydeddu ac amlygu straeon y menywod a siapiodd Ferthyr. Wedi’i lywio gan fewnwelediadau o’r sesiynau galw heibio Heritage and Herstories ar draws Cwm Merthyr, dewisodd y cyfranogwyr bob un stori am fenyw oedd yn haeddu cydnabyddiaeth, gan greu map ar y cyd o orffennol Merthyr drwy amrywiaeth o safbwyntiau benywaidd. Dim ond y dechrau yw’r prosiect hwn — gyda’r gobaith o barhau â’r gweithdai hyn a chydweithio â mwy o gymunedau ar draws y cwm, gan gyfoethogi ac ehangu naratif hanes menywod lleol ymhellach.
Mae Merthyr Tudful yr un mor enwog am ei derfysgoedd ag ydyw am gynhyrchu haearn. I’r hanesydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Dafydd Morgannwg, uchafbwynt ‘tri therfysg pwysig’ 1880, 1816 a 1831 oedd ‘streic gyffredinol, 1873’. Wrth ddarllen hanes gwrthdystiadau Merthyr, rwyf o hyd yn gweld eisiau’r menywod, er eu bod i’w gweld ar bosteri streic 1873, er mai nhw ofalodd am y clwyfedig ym 1831, ac er bod o leiaf un fam wedi sefyll rhwng y ddwy ochr i leddfu’r emosiwn ym 1816. Mae cael gafael ar eu cyfraniad yn anodd, ond rhoddodd un cofnod llys o’r cyfnod gipolwg i mi o weithreded dwy fam mewn cyfnod argyfyngus, yn ystod y flwyddyn o newyn ym 1800.
Methodd y cynhaeaf, ymgasglodd o leiaf 2,000 o bobl newynog ym marchnad Merthyr Tudful ‘gyda’r bwriad o leihau a sefydlogi pris bwydydd’ ar yr 22ain a’r 23ain o Fedi 1800. Pan fu’r negodi’n aflwyddiannus, trodd y bobl at gymryd bwyd drwy rym ac yn y broses dinistriwyd siop Morgan Lewis. Gorymdeithiodd Marchfilwyr Enniskillen a Gwirfoddolwyr y Bont Faen i Ferthyr a threuliodd dros ugain o bobl y Gaeaf yng Ngharchar Caerdydd. Rhoddwyd ugain person ar brawf yn Llys y Sesiwn Fawr ym mis Ebrill 1801, lle dedfrydwyd tri dyn ifanc - James Luke, Samuel Hill ac Aaron William – i farwolaeth. Ymysg y sawl a arestiwyd ac a roddwyd ar brawf yn y llys, roedd dwy fenyw o Ferthyr Tudful: Mary Rees a elwir hefyd yn Blackstone, a oedd yn 39 mlwydd oed ar y pryd, ac Elisabeth Morgan a oedd yn 46. Gwaned cais ffurfiol gan yr haearn-feistr Samuel Homfrey ac R.T. Deeree Ysgwier bod y ddwy yn mynd o flaen eu gwell am “ymgasglu gydag amryw bobl eraill, yn erbyn y gyfraith, yn derfysglyd ac yn aruthgar… er ofn i bobl, ac yn erbyn tangnefedd ein Harglwydd y Brenin’. Cafwyd Mary’n ‘ddieuog’, ond cafwyd Elizabeth yn ‘euog ond gyda dedfryd ohiriedig’.
Dyma’r unig gofnod sydd gennym o’r ddwy fenyw dosbarth gweithiol hyn. Mae’r cyfrifiad cyntaf, a gynhaliwyd ym 1801, yn anghyflawn ac nid oedd sôn am y menywod yn adroddiadau’r papur newydd ynghylch y terfysg. Codwyd nifer o gwestiynau i mi pan ddarllenais enwau Mary ac Elizabeth: o ystyried eu hoedrannau, byddent wedi bod yn famau neu hyd yn oed yn fam-guod, ac arnynt angen enbyd i sicrhau bwyd i’w teuluoedd. A oeddent yn newynu eu hunain er mwyn bwydo’u teuluoedd? Beth oedd effaith amodau Carchar Caerdydd ar eu hiechyd – yn ôl pob sôn roedd y lle mor ansad bu hyd yn oed i’r Barnwr gwyno. Beth ddigwyddodd i’w teuluoedd ym Merthyr pan oedd y menywod yn dihoeni yn y carchar dros y Gaeaf hir? Beth ddigwyddodd i Elizabeth wedi iddi gael ei dedfrydi? A fu’n rhaid iddi aros yn y carchar wedi Ebrill 1801? Nid oes modd cau pen y mwdwl, does dim sôn am y naill na’r llall mewn cofnodion llys pellach, aethant yn angof, tawelwyd eu lleisiau. Maent yn haeddu cael eu cofio ym Merthyr Tudful.
